Home.What we believe. EBENESER .People.News and services.Missionary links.Community.Contacts.

AMCANION EGLWYS EBENESER

AMCANION EGLWYS EBENESER

1. Cyhoeddi Efengyl Iesu Grist mewn gair a gweithred

 

2. Darparu cyfleon i bobl o bob oed ddysgu am yr Efengyl a’i phrofi, ac addoliad trwy gyfrwng y Gymraeg

 

Yr ydym yn cefnogi gwaith Cymorth Cristnogol ac elusennau eraill.

Yr ydym yn eglwys Fasnach Deg

 

Fel cynulleidfa o fewn  Eglwys Bresbyteraidd Cymru yr ydym yn glynu wrth y Gyffes Fer isod

 

Credwn yn Nuw Dad Hollalluog, Creawdwr a Llywodraethwr pob peth.

Credwn yn Iesu Grist, ei Uniganedig Fab, ein Harglwydd a’n Gwaredwr.  Trwy ei fywyd, ei farwolaeth ar y Groes a’i atgyfodiad, gorchfygodd bechod ac angau gan faddau inni ein pechodau a’n cymodi â Duw.

Credwn yn yr Ysbryd Glân. Trwyddo Ef y mae Crist yn preswylio yn y credinwyr, gan eu sancteiddio yn y gwirionedd.

Credwn yn yr Eglwys, Corff Crist a chymdeithas y saint; yn yr Ysgrythurau sanctaidd, yng Ngweinidogaeth y Gair a’r Sacramentau.

Credwn yn nyfodiad Teyrnas Dduw ac yng ngobaith gwynfydedig y bywyd tragwyddol trwy ein Harglwydd Iesu Grist

Credwn mai diben pennaf dyn ydyw gogoneddu Duw a’i fwynhau byth ac yn dragywydd.

 

ARWEINYDDION YR EGLWYS  

GWEINIDOG RHAN-AMSER:

Parchedig Catrin E. Roberts B.A.  02920 615900

 

BLAENORIAID:

 

Mr Cledwyn Bishop Y.H., B.Sc. (Ysgrifennydd) 01633 277593

Mr B. Hywel Jones B.Ed.

Mr D. Brian Jones M.R. Pharms.S (Trysorydd)

Mr Peter E. Lloyd

Miss Beryl Griffiths

Mr Alun Jones B.A.

 

Mae’r eglwys wedi ei chofrestru ar gyfer priodasau.

 

Catrin E. Roberts

Home.What we believe. EBENESER .People.News and services.Missionary links.Community.Contacts.